Cyfrir Geifr

 


Oes gafr eto? Oes heb ei godro.
Ar y creigiau geirwon maer
Hen afr yn crwydro.
Gafr wen, wen, wen.
Ie finwen, finwen, finwen.
Foel gynffonwen, foel gynffonwen,
Ystlys wen a chynffon.
Wen, wen, wen.

Oes gafr eto? Oes heb ei godro.
Ar y creigiau geirwon maer
Hen afr yn crwydro.
Gafr goch, goch, goch.
Ie fingoch, fingoch, fingoch.
Foel gynffongoch, foel gynffongoch,
Ystlys goch a chynffon.
Goch, goch, goch.

Oes gafr eto? Oes heb ei godro.
Ar y creigiau geirwon maer
Hen afr yn crwydro.
Gafr las, las, las. Ie finlas, finlas, finlas.
Foel gynffonlas, foel gynffonlas,
Ystlys las a chynffon. Las, las, las.